Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad Microblastigau | Microplastic Inquiry

 

Ymateb gan : Dŵr Cymru Welsh Water

Evidence from : Dŵr Cymru Welsh Water

 

1.                  Diolch am wahodd Dŵr Cymru Welsh Water i gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad pwysig i ficroblastigau sy'n cael ei gyflawni gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol. 

 

2.                  Daw'r sylwadau hyn gan Ddŵr Cymru Welsh Water, yr ymgymerydd dŵr a charthffosiaeth statudol sy'n darparu cyflenwadau dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr.  Rydym ym mherchnogaeth Glas Cymru, sef cwmni un pwrpas nid-er-rhanddeiliaid.  Rydyn ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid trwy ddarparu eu dŵr yfed, cludo eu dŵr gwastraff i ffwrdd a delio ag ef wedyn. Trwy hyn, rydyn ni'n gwneud cyfraniad pwysig at iechyd y cyhoedd ac at amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru.  Mae ein gwasanaethau'n hanfodol i ddatblygiad economaidd cynaliadwy yng Nghymru hefyd.

 

3.                  Mae ein hatebion i bedwar cwestiwn y Pwyllgor isod.

Cwestiwn 1 - I ba raddau mae microblastigau, gan gynnwys microffibrau synthetig, yn broblem o fewn amgylchedd dyfrol Cymru?  Sut mae hyn yn effeithio ar iechyd amgylcheddol ac iechyd dynol?

4.                  Mae'r corff o waith ymchwil academaidd sy'n cronni i'w gweld yn awgrymu hwyrach bod microblastigau wedi dod yn hollbresennol yn yr amgylchedd dyfrol.  Mae'r cyfryngau poblogaidd yn llawn gwybodaeth am bresenoldeb microblastigau yn yr amgylchedd morol, ond llai o dystiolaeth sydd yna am bresenoldeb microblastigau yn yr amgylchedd dŵr croyw, a faint sydd yno. 

 

5.                  O ran amgylchedd dyfrol Cymru, mae'r data gorau y gwyddom amdano mewn papur a gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar, sef (https://orca.cf.ac.uk/113345/8/Windsor%20et%20al%20STOTEN%20Microplastics.pdf). Mae’r papur hwn yn asesu faint o ficroblastigau sy'n cael eu lleibio gan macroinfertebratau afonol yn ne Cymru, a’r casgliad oedd y gwelwyd microblastigau mewn tua 50% o'r samplau o facroinfertebratau; y gwelwyd bod pob dosbarth o facroinfertebratau yn lleibio microblastigau ar draws pob safle, nac nad oedd unrhyw wahaniaeth o ran baich y microblastigau a welwyd  i lawr y llif o weithfeydd trin carthffosiaeth.

 

6.                  O ran iechyd dynol: Rydyn ni'n deall bod Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn bwriadu lansio adolygiad o risgiau posibl plastig mewn dŵr yfed i iechyd dynol, gan asesu'r gwaith ymchwil diweddaraf i ymlediad ac effaith microblastigau.  Mae gwaith ymchwil WHO yn awdurdodol iawn fel rheol, felly mae ei adolygiad yn gam pwysig ymlaen.

 

7.                   Mae diwydiant dŵr y DU wedi comisiynu ei gangen ymchwil, UKWIR, i gyflawni gwaith ymchwil i bresenoldeb nanoronynnau a microblastigau yn ein prosesau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â hynny.  Disgrifir hyn yn fanylach yn ein hateb i gwestiwn 3.

 

8.                  Yn Chwefror 2018, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynnig i ddiweddaru Cyfarwyddeb Dŵr Yfed yr UE a chyhoeddwyd drafft cychwynnol, sydd ar gael  yma<https://eur-lex.europa.eu/resource.html?uri=cellar:8c5065b2-074f-11e8-b8f5-01aa75ed71a1.0016.02/DOC_1&format=PDF> Fel rheol mae'n cymryd sawl blwyddyn o drafod ac ailddrafftio cyn y gellir mabwysiadu Cyfarwyddeb yn ffurfiol, a bryd hynny daw'n rhwymedigaeth ar yr Aelod-wladwriaethau.  O dybio y caiff y Gyfarwyddeb ddiwygiedig ei mabwysiadu yn y pendraw, bydd y DU wedi ymadael â 'r UE erbyn hynny.  Fodd bynnag, diddorol yw nodi bod cynnig y Comisiwn yn cynnwys cyfeiriadau at ficroblastigau, gan gynnwys yr angen am gyflawni gwaith ymchwil pellach, sy'n dangos bod yna gydnabyddiaeth gynyddol bod hwn yn faes sy'n galw am well dealltwriaeth o raddfa'r broblem a'i goblygiadau.

Cwestiwn 2 - Beth yw prif ffynonellau llygredd microblastigau, gan gynnwys microffibrau?

9.                   Yr astudiaeth fwyaf cynhwysfawr y gwyddom amdani yw “Investigating Options for Reducing Releases in the Aquatic Environment of Microplastics Emitted by Products” a gyhoeddwyd yn Chwefror 2018.  Fe’i paratowyd ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd <http://ec.europa.eu/environment/marine/good-environmental-status/descriptor-10/pdf/microplastics_final_report_v5_full.pdf> gan ICF <https://www.icf.com/> mewn cydweithrediad ag Eunomia a'i bartneriaid, ac mae'n canolbwyntio ar ficroblastigau sy'n cael eu creu gan draul gyffredin trwy gydol cylch oes nwydd.

 

10.              Casgliad yr adroddiad oedd taw teiars cerbydau modur, colli pelenni plastig cyn cynhyrchu, marciau ffordd a golchi dillad synthetig oedd y cyfranwyr mwyaf at ficroblastigau yn yr amgylchedd dyfrol yn Ewrop.  Gellir darllen yr adroddiad yma: http://www.eunomia.co.uk/reports-tools/investigating-options-for-reducing-releases-in-the-aquatic-environment-of-microplastics-emitted-by-products/

 

11.              Hyd y gwyddom, ychydig o ddata dibynadwy sydd yna ar y gyfran o ficroblastigau yn yr amgylchedd sy'n deillio o draul (macro) blastigau mwy fel sbwriel morol.

Cwestiwn 3 - Pa mor gynhwysfawr yw ein gwybodaeth am raddfa llygredd microblastigau a'i effeithiau?  Beth ddylai’r blaenoriaethau ymchwil fod?

12.              Mae diwydiant dŵr y DU am ddatblygu gwell dealltwriaeth am amledd a math y plastigau yn ei brosesau.  Mae’r sector dŵr wedi comisiynu ei gangen ymchwil, UKWIR, i gyflawni prosiect ymchwil pwysig yn y maes hwn, a hynny i raddau helaeth diolch i anogaeth Dŵr Cymru .

 

13.              Dechreuodd y prosiect, sy'n dwyn y teitl “Sink to River - River to Tap - A review of Potential Risks from Nano-particles and Microplastics”, ym mis Ebrill.  Ei nod yw rhoi dealltwriaeth gliriach i'r diwydiant dŵr am bresenoldeb nanoronynnau a microblastigau neu unrhyw risgiau sy'n deillio o hynny.

 

14.              Bydd y prosiect yn asesu nifer a math (ac felly ffynonellau posibl) microblastigau mewn - elifiant dŵr gwastraff wedi ei drin; arllwysiadau o'r system garthffosiaeth; dŵr yfed sy'n dod allan o weithfeydd trin dŵr (os o gwbl); slwtsh sy'n deillio o drin dŵr; a slwtsh carthffosiaeth wedi ei drin (biosolidau).

 

15.              Bydd y prosiect yn helpu hefyd i gadarnhau pa ddulliau dadansoddi sydd orau i asesu math, maint ac ansawdd microblastigau ym mhob rhan o’r system dŵr a charthffosiaeth. Yr her sylfaenol i'r gymuned ymchwil yw datblygu a diffinio technegau dadansoddi er mwyn pwyso a mesur a chyfri microblastigau.

 

16.              Yn ogystal, mae Prifysgol Caer-wysg, ar y cyd ag UKWIR fel cydweithredwr diwydiannol, yn cynnig cyfle i rywun ddilyn cwrs doethuriaeth pedair blynedd wedi ei ariannu'n llwyr ar ficroblastigau mewn dŵr gwastraff a fydd yn edrych ar yr anawsterau sydd ynghlwm wrth fesur, nodweddu ac asesu gwenwyndra posibl microblastigau, ac yna archwilio effeithiolrwydd y triniaethau sydd ar gael.

 

17.              Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd UKWIR, bydd gwaith ymchwil pellach ar ficroblastigau'n dechrau yn 2019 , gan gymryd canfyddiadau'r prosiect cyfredol i ystyriaeth.

 

18.              Mae angen cyflawni rhagor o waith ymchwil i ddeall y gyfran o ficroblastigau sy'n deillio o draul microblastigau yn yr amgylchedd.

Cwestiwn 4 - Beth sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal microblastigau rhag cael eu rhyddhau i'r amgylchedd? Pa gamau eraill y gellid eu cymryd, a chan bwy, i fynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru?

19.              Safbwynt Dŵr Cymru yw mai'r unig ffordd o leddfu problem plastigau sy'n mynd i'r amgylchedd dyfrol, gan gynnwys microblastigau, yw taclo'r broblem wrth ei wraidd.   Felly roedd Dŵr Cymru'n croesawu'n wresog gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu neu gyflenwi cynhyrchion gofal personol â microbelenni plastig i'w rinsio i ffwrdd a ddaeth i rym ddiwedd Mehefin 2018.  Roedd ardoll hirsefydlog Llywodraeth Cymru ar fagiau plastig yn gam craff iawn hefyd.

 

20.              Fel polisi cyffredinol, rydyn ni’n credu y dylid annog rhag defnyddio cynhyrchion nad ydynt yn fiodiraddiadwy - gan gynnwys plastigau - mewn cynhyrchion nad ydynt yn hanfodol, yn enwedig os ydynt yn debygol o ffeindio'u ffordd i'r amgylchedd dyfrol ac os oes deunyddiau eraill sy'n well i'r amgylchedd ar gael eisoes. O ran gweithredu, dylid rhoi blaenoriaeth i gynhyrchion lle bo dewisiadau eraill eisoes ar gael. 

 

21.              Mae ffyn gwlân cotwm yn esiampl dda.  Mae eu ffyn plastig yn anharddu llawer o draethau (gweler <https://www.cottonbudproject.org.uk/news/item/44-mcs-gbbc-report-2016.html>).  Mae papur yn ddeunydd bioddiraddiadwy amgen ar gyfer ffyn gwlân cotwm sydd ar gael ers amser, ac mae llawer o adwerthwyr eisoes yn stocio ffyn gwlân cotwm papur. Rydyn ni'n deall bod Llywodraeth yr Alban a Defra’n cynnig deddfwriaeth i wahardd ffyn gwlân cotwm plastig, a byddem yn croesawu cam tebyg yma yng Nghymru.  

 

22.              Er na ddylid gwaredu eitemau plastig i'r garthffos, yn anffodus mae llawer o eitemau yn cael eu fflysio i dai bach. Mae ein prosesau trin dŵr gwastraff a'n sgriniau'n dal y mwyafrif o blastigau dros faint penodol: er enghraifft, mae ein prosesau trin yn dal y rhan fwyaf o eitemau dau ddimensiwn dros 6mm, a'r amcangyfrif cyfredol yn adroddiad yr ICF y soniwyd amdano uchod yw bod 80% i 95% o ficroffibrau plastig yn cael eu dal trwy’r broses drin.  

 

23.              Fodd bynnag, mae'r mwyafrif o brosesau trin yn dibynnu ar setlo solidau allan: gall deunyddiau sy'n fwy hynawf basio trwy'r broses drin a llifo i'r amgylchedd dyfrol. Nid oes unrhyw brosesau trin dŵr gwastraff sydd wedi eu dylunio'n benodol i ddal microbelenni plastig, felly nid yw trin dŵr gwastraff yn hyfyw nac yn ddibynadwy yn hynny o beth ar hyn o bryd.  Nid oes unrhyw fethodoleg naturiol gymeradwy ychwaith ar gyfer mesur microblastigau (neu blastigau yn fwy cyffredinol) cyn a/neu ar ôl trin. 

 

24.              Yn nhermau eitemau na ddylid eu gwaredu i ddraeniau, mae'r diwydiant dŵr yn gorfod ymdopi â niferoedd cynyddol o weips a chynhyrchion eraill sy'n cynnwys plastigau sy'n cael eu fflysio i'n carthffosydd.  Mae llawer o weips yn cynnwys ffibrau plastig, ac am eu bod yn aml yn cael eu defnyddio i sychu cosmetigau, maen nhw'n gallu bod yn gyfrwng i gludo microbelenni cosmetig i'r garthffos. Mae weips yn achosi llawer o dagfeydd mewn carthffosydd, yn enwedig o'u cyfuno â braster a saim sy'n cael ei olchi'n ar gam i'r garthffos gan ffurfio "tomenni braster" (rydyn ni'n gweld tua 2,000 o dagfeydd mewn carthffosydd bob mis yng Nghymru).

 

25.              Trwy ein hymgyrch “Stop Cyn Creu Bloc”, mae Dŵr Cymru'n ceisio addysgu ein cwsmeriaid am y problemau y mae’r hyn yr ydym yn ei alw'n cam-drin carthffosydd yn eu hachosi, fel tagfeydd mewn carthffosydd, a’r llifogydd a’r problemau amgylcheddol a ddaw yn sgil hynny. Mewn menter diwydiant-eang, lle mae Dŵr Cymru'n chwarae rhan arweiniol, mae'r sector carthffosiaeth wedi bod yn ymgyrchu’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddefnyddio'r holl gyfryngau a phob cyfle posibl arall i addysgu'r cyhoedd am effaith cam-drin carthffosydd, ac yn enwedig o ran gwaredu weips.

 

26.              Esiampl ddiweddar oedd ymweliad Ras Fôr Volvo â Bae Caerdydd. Un o themâu achlysur Volvo oedd yr angen am leihau'r llygredd plastig yn ein moroedd.  Manteisiodd Dŵr Cymru ar y cyfle i gynnal sesiynau rhyngweithiol, a ddenodd dros 500 o oedolion a phlant i ddysgu am y cylch dŵr ac effeithiau amgylcheddol cam-drin carthffosydd.  Fe ddosbarthon ni ein poteli plastig amlddefnydd hefyd am ein bod ni'n awyddus i hybu’r neges "adlenwi â dŵr" fel ffordd o leihau nifer y poteli plastig yn yr amgylchedd.

 

27.              Mae ein profiad o addysgu cwsmeriaid yn dweud wrthym fod cysylltu ymddygiad unigolion a'r goblygiadau ar wasanaethau a'r amgylchedd yn gwneud gwahaniaeth.  Os yw pobl yn sylweddoli bod gwaredu nwyddau personol mewn ffordd amhriodol yn gallu achosi niwed i'r amgylchedd, byddant yn llai tebygol o wneud hynny. 

 

28.              Mae'r diwydiant dŵr wedi bod yn gweithio gyda chynhyrchwyr nwyddau fel weips (sy'n cael eu fflysio i lawr tai bach pobl) ar brofion "fflysiadwyedd" ac ar logos cysylltiedig ers dros bedair blynedd - ond ni fu'n bosibl dod i gytundeb hyd yn hyn.  Byddem felly'n gofyn i'r Llywodraeth ystyried opsiynau rheoliadol i sicrhau bod yr holl nwyddau ar ffurf weips sy'n methu prawf fflysiadwyedd newydd y diwydiant yn gorfod dangos logo 'dim fflysio' clir, bras ac amlwg ar eu holl becynnau. Byddai hyn yn ategu ein neges, ac yn caniatáu i'r cwsmeriaid ymateb mewn ffordd gyfrifol.

 

29.              Gobeithio y bydd y dystiolaeth yma'n bwydo eich dealltwriaeth am bersbectif y diwydiant carthffosiaeth am y mater hwn a'r amryw o fesurau rydym eisoes yn eu cymryd.  Rwy'n barod i sefyll o flaen eich Pwyllgor i ymhelaethu ar y dystiolaeth yma pe byddai hynny o gymorth i chi.

 

Steve Wilson,

Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff